Y Bont Gadwyn, Llangollen – cist gweithgareddau ar gyfer teuluoedd

Gwireddwyd y comisiwn hwn, i ddyfeisio a darparu cist llawn gweithgareddau, yn gysylltiedig â’r Bont Gadwyn, ar gyfer teuluoedd – i’w leoli yn Amgueddfa Llangollen, gan Siân Shakespear drwy:

  • ymchwilio i mewn i’r bont ac i bontydd yn gyffredinol
  • greu’r cysyniadau a’r cynnwys ar gyfer gwahanol weithgareddau:
    • gêm nadroedd ac ysgolion yn seiliedig ar egwyddorion dulliau o adeiladu pontydd
    • cyfres o gardiau post hanesyddol ffug i ddefnyddwyr eu gosod yn ôl dyddiad
    • pario dyfyniadau ynglŷn â’r bont a’r afon gyda chymeriadau gwahanol, hanesyddol a chyfoes, ar bwrdyn magnetig
    • adeiladu pont
    • jig-so magnetig, darlun lliwio fewn a darlun llenwi bylchau
  • weithio gyda dylunydd a gwneuthurwr i greu a chynhyrchu’r gist a’r gweithgareddau oll