Geirda gan gwsmeriaid

Y cwsmer sydd wastad yn gywir!

“Mae ymwelwyr yn gyson yn datgan pa mor broffesiynnol yw’r dehongli. Cwblhawyd y gwaith mewn pryd a roeddem yn hynod fodlon â safon y gwaith, yr ymchwil a’r ymgynhori cyson fel yr ai’r gwaith yn ei flaen.”

Y diweddar Dewi Tomos, Cadeirydd, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Cae’r Gors

“Cymeraf y cyfle hwn i ddiolch i ti am y gwaith ac mae’n bleser gennyf ddweud fod canmoliaeth iddo.”

Stephen Tudor, Cadeirydd Partneriaeth Pwllheli

“Dim ond isio diolch i ti am dy waith hefo’r gymuned a’r holl waith consultation wnes di. Llwyth o feedback positive ers y penderfyniad dydd Llun.”

Emyr Evans, Rheolwr Prosiect Gweilch y Ddyfi

“Gweithiodd Prosiect y Bont Gadwyn gyda Siân Shakespear er mwyn creu cist gweithgareddau teuluol ar gyfer Amgueddfa Llangollen. O’r cychwyn cyntaf deallodd Siân bod angen i’r gist fod yn hwyl tra’n cyfleu thema a straeon hollbwysig am y safle yn ogystal â chyflwyno plant i egwyddorion peirianneg. Gan ddefnyddio contractwyr dibynadwy cynhyrchodd Siân gist gweithgareddau hwyliog ac ymarferol llawn gemau a fydd yn ased i’r prosiect. Roedd Siân yn broffesiynol drwyddi draw a chwblhaodd y prosiect o fewn cyllid tynn iawn.”

Samantha Jones, Swyddog Treftadaeth, Prosiect Y Bont Gadwyn

Diolch yn fawr am y lluniau – mi wnes i weld y paneli ddoe ac mae nhw’n edrych yn wych. Diolch am dy holl waith ac am fod mor frwydfrydig am y prosiect.

Jill Jackson, Ecolegydd, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru