Os oes gennych weledigaeth neu brosiect lle bydd angen un neu fwy o’r canlynol cysylltwch i drafod sut gallaf eich helpu.
- adnabod budd-ddeiliaid a denu cyfranogaeth gan aelodau o gymunedau neu bartneriaid
- paratoi cynlluniau dehongli gan gynnwys datblygu themâu
- ymchwilio ac ysgrifennu testunau dwyieithog gafaelgar
- cyd-gordio darpariaeth dehongli ar un neu nifer o safleoedd
- goruchwylio dylunio a chynhyrchu gwaith celf ac elfennau technolegol
- cynllunio a goruchwylio gwefannau neu eitemau awdio/ffilm
- cynllunio a chomisiynu celf gyhoeddus
- rheoli prosiect reit trwodd i oruchwylio gwaith gosod