Marin Lêc, Rhyl – Trywydd Bywyd Gwyllt a Threftadaeth

Gwireddwyd y comisiwn hwn gan Siân Shakespear drwy:

  • datblygu cysyniadau ar gyfer amryw eitem i gynnwys paneli trawiadol yn arddangos gwaith celf gan blant ysgol lleol sy’n sefyll ar standiau metal wedi’u cerflunio, rwbiadau fel rhan o drywydd rwbio, totemau gwaith celf cyhoeddus i ddarparu ymdeimlad o gyrraedd, murlun lliwgar, cerfluniau pren a phytiau awdio o alwadau adar a sylwebiaeth yn seiliedig ar hanesion go iawn
  • gynnal sesiynau taro-heibio er mwyn hel atgofion a deunydd
  • ymchwilio ac ysgrifennu testun ar gyfer yr holl eitemau
  • oruchwylio is-gontractwyr i ddylunio a darparu’r holl elfennau