Arweiniodd hyfforddiant trylwyr, a oedd yn rhan o sefydlu Rhwydwaith Hwyluswyr Gwynedd, at fagu profiad o hwyluso prosesau cyfranogol. Mae fy mhrofiad proffesiynol bellach yn cynnwys cynllunio a hwyluso gweithdai i adolygu pob math o brosiectau a phartneriaethau, sefydlu partneriaethau newydd, ymgynghori gyda’r cyhoedd ar fentrau neu newidiadau mawr, a dyfeisio strategaethau gyda rhanddeiliaid. Fy mhrif bleser yw cynllunio, o’r cychwyn, broses sy’n cynnwys cyfres o gyfarfodydd neu ddulliau cyfranogol eraill.
- dwyieithog
- sefydlu partneriaethau
- adolygu prosesau, prosiectau a phartneriaethau
- hyblyg mewn ystod eang o sefyllfaoedd
- o prosesau hir dymor i achlysuron unigol
- o gyfarfodydd cyhoeddus i grwpiau tasg
- gweithio’n agos gyda’r cleiant
- consensws er lles yr amgylchedd a phobl
- costau cystadleuol