Map Ardal Eang
Map Ardal Leol
Cyfarwyddiadau
O’r De
O gyfeiriad Porthmadog, ar hyd yr A487, wrth gyrraedd y bont (“fly-over”) yng nghanol Caernarfon cymerwch y “slip-road” ac yna o’r cylchfan o dan y bont cymerwch y tro i Lanberis ar hyn yr A4086. Ar ôl tua 150 llath cymerwch y tro cyntaf i’r chwith o’r cylchfan nesaf, i gyfeiriad Bethel, ar hyd y B4366. Dilynwch y ffordd yma am 3.5 milltir, trwy Bethel, ac yna ewch yn syth ar draws y cylchfan, gan ymuno â’r A4244 – i gyfeiriad Pentir a Bethesda. Ar ôl tua milltir cymerwch y tro i’r chwith (wedi ei arwyddo i Gaerhun) – mae Creigfryn o fewn 100 llath – gweler y map uchod.
O’r Dwyrain
O Gonwy, ar hyd yr A55, wrth gyrraedd cyffordd 11 (wedi ei arwyddo i Fangor a Betws-y-Coed), cymerwch y “slip-road” ac yna cymerwch y tro cyntaf i’r chwith o’r cylchfan uwchlaw’r A55. Ar ôl tua 100 llath yn unig cymerwch yr ail dro (i’r dde) o’r cylchfan nesaf – wedi ei arwyddo i Bentir. Dilynwch yr A4244 am 2.5 milltir, ac yna trowch i’r dde wrth yr arwydd yn cyfeirio at Gaerhun – mae Creigfryn o fewn 100 llath – gweler y map uchod.
O Ynys Môn
Ar ol croesi pont Britannia, ar yr A55, cymerwch y “slip-road”, ac wrth y cylchfan, cymerwch y tro i gyfeiriad Caernarfon. Ar ôl tua milltir cymerwch y trydydd tro o’r cylchfan (sef yr un i gyfeiriad Felinheli nid yr un i Gaernarfon). Ar ôl tua hanner milltir cymerwch y tro i’r chwith -yc cyfeirio at Bentir. Ar ôl tua milltir a hanner cymerwch y tro i’r chwith o’r cylchfan, gan ymuno â’r A4244 – i gyfeiriad Pentir a Bethesda. Ar ôl tua milltir cymerwch y tro i’r chwith (wedi ei arwyddo i Gaerhun) – mae Creigfryn o fewn 100 llath – gweler y map uchod.