Skip to content
Sefydlu partneriaethau
 |
Cynllun Dechra’n Deg, Gwynedd – cynllunio a rhedeg tri gweithdy lleol gyda budd-ddeiliaid i gynllunio gwariant ac i sefydlu partneriaethau lleol i wireddu’r cynllun yma gan y Cynulliad. Hefyd i gynllunio a rhedeg gweithdy adolygu’r cynllun ledled y sir. |
Mwy...Cuddio...
Adolygu prosiectau a phartneriaethau
 |
Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru – cynllunio a chynnal gweithdy a pharatoi adroddiad i adolygu gwaith y bartneriaeth dros y 3 mlynedd blaenorol ac i gynllunio cyfeiriad datblygu i’r dyfodol fel sail i geisio am arian i barhau gyda’r fenter. |
Mwy...Cuddio...
Strategaethau a chynlluniau busnes
 |
Cymdeithas Tai Cantref – cynllunio a hwyluso cwrdd i ffwrdd ar gyfer aelodau bwrdd y Gymdeithas i gychwyn creu cynllun busnes sy’n ymateb i heriau’r dydd ac sy’n datblygu’r Gymdeithas i’r dyfodol. |
Mwy...Cuddio...
Ymgynghori
 |
Confensiwn Cymru Gyfan – cynllunio a chynnal gweithdy i ganfod barn aelodau grwpiau gwirfoddol cymunedol yn y gogledd orllewin ar y posibilrwydd o gynyddu pwerau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol. |
Mwy...Cuddio...
Gwella cyd-weithredu
 |
Bwrlwm Eryri – cynllunio a rhedeg cyfres o weithdai ar gyfer grŵp llywio’r prosiect treftadaeth diwyllianol hwn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. |
Mwy...Cuddio...
 |
Gwasanaethau Tai a Chymdeithasol Gwynedd – cynllunio a rhedeg gweithdy i wella cydweithredu rhwng y gwasanaethau hyn. |
Gofod-agored
 |
Rhedeg dwy gynhadledd gan ddefnyddio dull gofod-agored – un ar gyfer y sector wirfoddol a Chyngor Gwynedd ac un ar gyfer Fforwm Môn ac Ymddiriedolaeth Carnegie gan ddefnyddio dull gofod-agored. |
Noder: cynlluniwyd a hwyluswyd nifer o’r sesiynau uchod ar y cyd â Gethin Clwyd.
Profiad cyflogedig – Swyddog Dehongli, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
 |
Cynllunio a hwyluso cyfarfodydd mewnol mewn amrywiaeth o feysydd ac ar lefelau amrywiol o fewn y corff. |
 |
Cynllunio a hwyluso gweithdai a chyfarfodydd allanol fel rhan o broses ymgynghori ar amrywiaeth o feysydd megis y Côd Cefn Gwlad. |
 |
Creu a chyd-gordio grwpiau prosiect a chyfranogi mewn fforymau a phartneriaethau. |
Manylion y Canolwyr