Canolfan Dreftadaeth
 |
Canolfan Adeiladu Traddodiadol, Fferm Dinefwr, Llandeilo – cynllunio a chynhyrchu arddangosfa aml-gyfrwng ar gyfer Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd, sy’n cyflwyno adeiladau traddodiadol y fro a’r dulliau traddodiadol o’u cynnal neu eu hadfer. |
Mwy...Cuddio...
 |
Cae’r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan – creu cynllun dehongli wedi’i brisio’n llawn, ymchwilio, ysgrifennu testun a rheoli is-gontractwyr i gynhyrchu ffilm, arddangosfa, gweithgareddau cyfrifiadurol cyffwrdd-sgrin a sylwebaeth awdio. |
Cynlluniau dehongli
 |
Naws Lle, Caernarfon – cynllunio a dyfeisio strategaeth dehongli a marchnata ar gyfer tref Caernarfon gyda mewnbwn rhanddeiliaid, sydd yn adolygu’r sefyllfa bresennol ac yn gosod nod ac amcanion ac yn manylu prosiectau dros y blynyddoedd i ddod. |
Mwy...Cuddio...
Llecynnau a golygfannau
 |
Paneli croeso a dehongli, Caernarfon – ymchwilio gwybodaeth a lluniau, creu cysyniad, ysgrifennu copi a chynhyrchu cyfres o baneli croeso a chyfeirio a dehongli ar gyfer tref Caernarfon. |
Mwy...Cuddio...
Lonydd las a llwybrau
 |
Llwybr Beicio Lôn Ardudwy – ymchwilio, ysgrifennu copi a chreu cysyniad ar gyfer paneli a llyfryn. |
Mwy...Cuddio...
Pecyn athrawon
 |
Cors Goch a Chaeau Pen y Clip – pecynnau athrawon ar gyfer dwy warchodfa natur Cymdeithas Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. |
Digwyddiadau awyr agored
 |
Datguddio treftadaeth Dyffryn Aber – trefnu, hybu a gwerthuso rhaglen o ddigwyddiadau i gydfynd â chloddfa archaeolegol. |
Ysgrifennu
 |
Sloganau, RSPB– drafftio opsiynau, profi a mireinio amrywiaeth o sloganau gwreiddiol yn y Gymraeg i hybu aelodaeth o’r RSPB. |
Noder: cydweithiais gyda nifer o gymdeithion gwahanol sy’n arbenigo ar amryw agwedd er mwyn gwireddu nifer o’r comisynau uchod.
Profiad cyflogedig – Swyddog Dehongli, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
 |
Cynllunio a rheoli darpariaeth dehongli a chyfleusterau ymwelwyr ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol. |
 |
Darparu cyngor ac arweiniad i gyd-weithwyr ar ddulliau dehongli effeithlon. |
 |
Cyfranogi mewn fforymau a phartneriaethau, a creu a chyd-gordio grwpiau prosiect lle bo angen. |
Manylion y Canolwyr