Mae fy mhrofiad dros 15 mlynedd ym maes cyfathrebu a dehongli dwyieithog wedi canolbwyntio ar ddulliau statig megis paneli awyr agored ac arddangosfeydd pwrpasol. Rydw i wedi cynllunio a rheoli prosiectau arloesol, megis prosiect dehongli’r Wyddfa, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r Warchodfa natur uchaf yng Nghymru. Yn ogystal, rheolais brosiect uchelgeisiol i ddehongli rhai o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng gwaith celf awyr agored.
Gwasanaeth
- dwyieithog, ac sydd yn cynnwys ein diwylliant
- cynllunio drwy gyrraedd consensws
- cyfleu negeseuon yn effeithiol drwy ddefnyddio themau
- gweithio gyda chymunedau i’w helpu i gyflwyno eu stori
- dyfeisio cysyniad, ymchwilio ac ysgrifennu testun bachog
- rheoli prosiectau o’r cysyniad i’r ddarpariaeth
- wedi’i deilwra ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
- gyda ac ar gyfer pobl gydag anghenion arbennig