Hwyluso

Arweiniodd hyfforddiant trylwyr, a oedd yn rhan o sefydlu Rhwydwaith Hwyluswyr Gwynedd, at fagu profiad o hwyluso prosesau cyfranogol. Mae fy mhrofiad proffesiynol bellach yn cynnwys cynllunio a hwyluso gweithdai i adolygu pob math o brosiectau a phartneriaethau, sefydlu partneriaethau newydd, ymgynghori gyda’r cyhoedd ar fentrau neu newidiadau mawr, a dyfeisio strategaethau gyda rhanddeiliaid. Fy mhrif bleser yw cynllunio, o’r cychwyn, broses sy’n cynnwys cyfres o gyfarfodydd neu ddulliau cyfranogol eraill.

  • dwyieithog
  • sefydlu partneriaethau
  • adolygu prosesau, prosiectau a phartneriaethau
  • hyblyg mewn ystod eang o sefyllfaoedd
  • o prosesau hir dymor i achlysuron unigol
  • o gyfarfodydd cyhoeddus i grwpiau tasg
  • gweithio’n agos gyda’r cleiant
  • consensws er lles yr amgylchedd a phobl
  • costau cystadleuol