Profiad dehongli hunan gyflogedig

Canolfan Dreftadaeth

llun o ddeilen - pwynt bwled Canolfan Adeiladu Traddodiadol, Fferm Dinefwr, Llandeilo – cynllunio a chynhyrchu arddangosfa aml-gyfrwng ar gyfer Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd, sy’n cyflwyno adeiladau traddodiadol y fro a’r dulliau traddodiadol o’u cynnal neu eu hadfer.

Mwy...

Cynlluniau dehongli

llun o ddeilen - pwynt bwled Naws Lle, Caernarfon – cynllunio a dyfeisio strategaeth dehongli a marchnata ar gyfer tref Caernarfon gyda mewnbwn rhanddeiliaid, sydd yn adolygu’r sefyllfa bresennol ac yn gosod nod ac amcanion ac yn manylu prosiectau dros y blynyddoedd i ddod.

Mwy...

Llecynnau a golygfannau

llun o ddeilen - pwynt bwled Paneli croeso a dehongli, Caernarfon – ymchwilio gwybodaeth a lluniau, creu cysyniad, ysgrifennu copi a chynhyrchu cyfres o baneli croeso a chyfeirio a dehongli ar gyfer tref Caernarfon.

Mwy...

Lonydd las a llwybrau

llun o ddeilen - pwynt bwled Llwybr Beicio Lôn Ardudwy – ymchwilio, ysgrifennu copi a chreu cysyniad ar gyfer paneli a llyfryn.

Mwy...

Pecyn athrawon

llun o ddeilen - pwynt bwled Cors Goch a Chaeau Pen y Clip – pecynnau athrawon ar gyfer dwy warchodfa natur Cymdeithas Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. 

Digwyddiadau awyr agored

llun o ddeilen - pwynt bwled Datguddio treftadaeth Dyffryn Aber – trefnu, hybu a gwerthuso rhaglen o ddigwyddiadau i gydfynd â chloddfa archaeolegol.

Ysgrifennu

llun o ddeilen - pwynt bwled Sloganau, RSPB– drafftio opsiynau, profi a mireinio amrywiaeth o sloganau gwreiddiol yn y Gymraeg i hybu aelodaeth o’r RSPB.

Noder: cydweithiais gyda nifer o gymdeithion gwahanol sy’n arbenigo ar amryw agwedd er mwyn gwireddu nifer o’r comisynau uchod.

Profiad cyflogedig – Swyddog Dehongli, Cyngor Cefn Gwlad Cymru

llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllunio a rheoli darpariaeth dehongli a chyfleusterau ymwelwyr ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
llun o ddeilen - pwynt bwled Darparu cyngor ac arweiniad i gyd-weithwyr ar ddulliau dehongli effeithlon.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cyfranogi mewn fforymau a phartneriaethau, a creu a chyd-gordio grwpiau prosiect lle bo angen.

Manylion y Canolwyr