Rhaeadr Aber Falls

Map Ardal Eang

Map ardal eang o Bentir gan Yahoo Local Maps.

Map Ardal Leol

Map Leol o'r swyddfa ym Mhentir

Cyfarwyddiadau

O'r De  

O gyfeiriad Porthmadog, ar hyd yr A487, wrth gyrraedd y bont ("fly-over") yng nghanol Caernarfon cymerwch y "slip-road" ac yna o'r cylchfan o dan y bont cymerwch y tro i Lanberis ar hyn yr A4086. Ar ôl tua 150 llath cymerwch y tro cyntaf i'r chwith o'r cylchfan nesaf, i gyfeiriad Bethel, ar hyd y B4366. Dilynwch y ffordd yma am 3.5 milltir, trwy Bethel, ac yna ewch yn syth ar draws y cylchfan, gan ymuno â'r A4244 - i gyfeiriad Pentir a Bethesda. Ar ôl tua milltir cymerwch y tro i'r chwith (wedi ei arwyddo i Gaerhun) - mae Creigfryn o fewn 100 llath - gweler y map uchod.

O'r Dwyrain  

O Gonwy, ar hyd yr A55, wrth gyrraedd cyffordd 11 (wedi ei arwyddo i Fangor a Betws-y-Coed), cymerwch y "slip-road" ac yna cymerwch y tro cyntaf i'r chwith o'r cylchfan uwchlaw'r A55. Ar ôl tua 100 llath yn unig cymerwch yr ail dro (i'r dde) o'r cylchfan nesaf - wedi ei arwyddo i Bentir. Dilynwch yr A4244  am 2.5 milltir, ac yna trowch i'r dde wrth yr arwydd yn cyfeirio at Gaerhun - mae Creigfryn o fewn 100 llath - gweler y map uchod.

O Ynys Môn  

Ar ol croesi pont Britannia, ar yr A55, cymerwch y "slip-road", ac wrth y cylchfan, cymerwch y tro i gyfeiriad Caernarfon.  Ar ôl tua milltir cymerwch y trydydd tro o'r cylchfan (sef yr un i gyfeiriad Felinheli nid yr un i Gaernarfon). Ar ôl tua hanner milltir cymerwch y tro i'r chwith - yc cyfeirio at Bentir. Ar ôl tua milltir a hanner cymerwch y tro i'r chwith o'r cylchfan, gan ymuno â'r A4244 - i gyfeiriad Pentir a Bethesda. Ar ôl tua milltir cymerwch y tro i'r chwith (wedi ei arwyddo i Gaerhun) - mae Creigfryn o fewn 100 llath - gweler y map uchod.
English text

 


Hafan  |  Dehongli  |  Hwyluso  |  Cysylltu  |  Lleoliad
Cynllunio Pentir Design