Arweiniodd hyfforddiant trylwyr, a oedd yn rhan o sefydlu Rhwydwaith Hwyluswyr Gwynedd, at fagu profiad o hwyluso prosesau cyfranogol. Mae fy mhrofiad proffesiynol bellach yn cynnwys cynllunio a hwyluso gweithdai i adolygu pob math o brosiectau a phartneriaethau, sefydlu partneriaethau newydd, ymgynghori gyda'r cyhoedd ar fentrau neu newidiadau mawr, a dyfeisio strategaethau gyda rhanddeiliaid. Fy mhrif bleser yw cynllunio, o'r cychwyn, broses sy'n cynnwys cyfres o gyfarfodydd neu ddulliau cyfranogol eraill.
| Hawlfraint © Siân Shakespear 2006 | Cynllunio Pentir Design |