Rhaeadr Aber Falls

Profiad hunan gyflogedig

Sefydlu partneriaethau

llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllun Dechra’n Deg, Gwynedd – cynllunio a rhedeg tri gweithdy lleol gyda budd-ddeiliaid i gynllunio gwariant ac i sefydlu partneriaethau lleol i wireddu’r cynllun yma gan y Cynulliad. Hefyd i gynllunio a rhedeg gweithdy adolygu’r cynllun ledled y sir.
llun o ddeilen - pwynt bwled Rhaglen Mentro Allan y Loteri Fawr - hwyluso cyfarfod o fudd-ddeiliaid yng ngogledd Cymru, a chynllunio a hwyluso cyfarfodydd o bedwar ddarpar bartneriaeth lleol i rhedeg prosiectau Mentro Allan yn y gogledd.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllun Dechra’n Deg, Môn – cynllunio a rhedeg cyfres o ddau gweithdy ar gyfer budd-ddeiliaid i gynllunio gwariant ac i sefydlu partneriaeth lleol i wireddu’r cynllun yma gan y Cynulliad yng Nghybi.
llun o ddeilen - pwynt bwled Partneriaeth Pobl Hŷn Gwynedd – cynllunio a rhedeg cyfres o weithdai fel proses o sefydlu’r bartneriaeth.

Adolygu prosiectau a phartneriaethau

llun o ddeilen - pwynt bwled Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru – cynllunio a chynnal gweithdy a pharatoi adroddiad i adolygu gwaith y bartneriaeth dros y 3 mlynedd blaenorol ac i gynllunio cyfeiriad datblygu i’r dyfodol fel sail i geisio am arian i barhau gyda’r fenter.
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaethau Datblygu Gwynedd a Chonwy Gwledig – cynllunio a chynnal gweithdai a pharatoi adroddiadau i adolygu nod ac amcanion y strategaethau er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas o dan amgylchiadau economaidd y dydd.
llun o ddeilen - pwynt bwled Dechrau’n Deg, Ynys Môn – cynllunio a chynnal gweithdy a pharatoi adroddiad i adolygu cynnydd y fenter hon, a gychwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac i gytuno ar flaenoraethau gwariant ar gyfer gweddill y cynllun.
llun o ddeilen - pwynt bwled DCP Cymru – cynllunio a chynnal gweithdai blynyddol i adolygu gwaith DCP Cymru (Division of Clinical Psychology) ac i lunio cyfeiriad gyda gweithredoedd ar gyfer y dyfodol.
llun o ddeilen - pwynt bwled Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc Gwynedd – cynllunio a rhedeg cyfres o weithdai i adolygu y ffordd maent yn gweithredu a’u strwythur a chytuno ar strwythur diwygiedig.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllun Mentrau WDA - Cynllunio a hwyluso adolygiad o gyfarfodydd rhwydweithio Mentrau sy’n cael eu ariannu gan y WDA.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllun Cyfrwng, Cymad - Cynllunio a hwyluso gweithdy arfer da ar gyfer tiwtor-drefnyddion Cymraeg i oedolion.
llun o ddeilen - pwynt bwled Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwynedd – cynllunio a rhedeg gweithdy i adolygu y ffordd mae’n cael ei weithredu a’i strwythur.
llun o ddeilen - pwynt bwled Genesis Môn – cynllunio a rhedeg gweithdy i adolygu'r prosiect yma, sy'n hannu o'r Cynulliad, ar yr ynys, ac i gytuno ar flaenoraethau ar gyfer gweddill cyfnod y cynllun.

Strategaethau a chynlluniau busnes

llun o ddeilen - pwynt bwled Cymdeithas Tai Cantref – cynllunio a hwyluso cwrdd i ffwrdd ar gyfer aelodau bwrdd y Gymdeithas i gychwyn creu cynllun busnes sy’n ymateb i heriau’r dydd ac sy’n datblygu’r Gymdeithas i’r dyfodol.
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaeth ar gyfer y Celfyddydau, Gwynedd – cynllunio a rhedeg cyfres o ddau weithdy i ddyfeisio strategaeth ar gyfer y celfyddydau yng Ngwynedd.
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaeth Gymunedol Conwy - Cynllunio a hwyluso gweithdy ar drafnidaeth.
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaeth Di-gartrefedd Gwynedd – cynllunio a rhedeg gweithdy cychwynnol ar gyfer Strategaeth Di-gartrefedd newydd i Wynedd

Ymgynghori

llun o ddeilen - pwynt bwled Confensiwn Cymru Gyfan – cynllunio a chynnal gweithdy i ganfod barn aelodau grwpiau gwirfoddol cymunedol yn y gogledd orllewin ar y posibilrwydd o gynyddu pwerau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y dyfodol.
llun o ddeilen - pwynt bwled Partneriaeth Tirlun Llyn – cynllunio a chynnal sesiynau taro heibio a pharatoi adroddiad ar syniadau a chynigion gan aelodau cymunedau Penrhyn Llyn ar sut i ddathlu a gwarchod treftadaeth a diwylliant Llyn fel sail i gais lwyddianus am arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer cynllun 3 mlynedd.
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaeth Arbedion Cyngor Gwynedd – cynllunio a chynnal cyfres o gyfarfodydd gydag aelodau o’r cyhoedd a staff er mwyn canfod barn ar gynigion penodol i’w hystyried fel rhan o strategaeth arbed arian y cyngor.
llun o ddeilen - pwynt bwled Ail-strwythuro staff Cymdeithas Tai Eryri – hwyluso cynhadledd staff y Gymdeithas er mwyn canfod barn ar strwythur staffio newydd a chytuno ar ffordd ymlaen.
llun o ddeilen - pwynt bwled Coed Ysgubor Wen, Tywyn – cynllunio a chynnal proses ymgynghori a pharatoi adroddiad ar gyfer Coed Cadw er mwyn canfod barn ymysg y gymuned leol ar sefydlu coedwig newydd wrth Llanegryn a chynnig ffordd ymlaen.
llun o ddeilen - pwynt bwled Ail-strwythuro Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn – cynllunio a hwyluso gweithdy ar gyfer staff Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn ac aelodau bwrdd Canllaw Eryri i drafod newidiadau yn sgil sefydlu un cwmni ymbarel ar gyfer y ddwy asiantaeth ac i gytuno ar ffordd ymlaen.
llun o ddeilen - pwynt bwled Adolygu Trefniadaeth Ysgolion Cynradd Gwynedd – cyd-gynllunio a rhedeg rownd o gyfarfodydd ymgynghorol gyda rhieni a llywodraethwyr mewn saith talgylch yn ardaloedd gwledig Gwynedd fel rhan o’r broses o adolygu trefniadaeth yr ysgolion cynradd.

Gwella cyd-weithredu

llun o ddeilen - pwynt bwled Bwrlwm Eryri – cynllunio a rhedeg cyfres o weithdai ar gyfer grŵp llywio’r prosiect treftadaeth diwyllianol hwn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.
llun o ddeilen - pwynt bwled Gwasanaethau Tai a Chymdeithasol Gwynedd – cynllunio a rhedeg gweithdy i wella cydweithredu rhwng y gwasanaethau hyn.

Gofod-agored

llun o ddeilen - pwynt bwled Rhedeg dwy gynhadledd gan ddefnyddio dull gofod-agored - un ar gyfer y sector wirfoddol a Chyngor Gwynedd ac un ar gyfer Fforwm Môn ac Ymddiriedolaeth Carnegie gan ddefnyddio dull gofod-agored.

Noder: cynlluniwyd a hwyluswyd nifer o’r sesiynau uchod ar y cyd â Gethin Clwyd.

Profiad cyflogedig - Swyddog Dehongli, Cyngor Cefn Gwlad Cymru

llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllunio a hwyluso cyfarfodydd mewnol mewn amrywiaeth o feysydd ac ar lefelau amrywiol o fewn y corff.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllunio a hwyluso gweithdai a chyfarfodydd allanol fel rhan o broses ymgynghori ar amrywiaeth o feysydd megis y Côd Cefn Gwlad.
llun o ddeilen - pwynt bwled Creu a chyd-gordio grwpiau prosiect a chyfranogi mewn fforymau a phartneriaethau.
Manylion y Canolwyr English text

 


Hafan  |  Dehongli  |  Hwyluso  |  Cysylltu  |  Lleoliad
Cynllunio Pentir Design