Rhaeadr Aber Falls

Profiad hunan gyflogedig

Canolfan Dreftadaeth

llun o ddeilen - pwynt bwled Canolfan Adeiladu Traddodiadol, Fferm Dinefwr, Llandeilo – cynllunio a chynhyrchu arddangosfa aml-gyfrwng ar gyfer Prosiect Tywi Afon yr Oesoedd, sy’n cyflwyno adeiladau traddodiadol y fro a’r dulliau traddodiadol o’u cynnal neu eu hadfer.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cae’r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan – creu cynllun dehongli wedi’i brisio’n llawn, ymchwilio, ysgrifennu testun a rheoli is-gontractwyr i gynhyrchu ffilm, arddangosfa, gweithgareddau cyfrifiadurol cyffwrdd-sgrin a sylwebaeth awdio.

Cynlluniau dehongli

llun o ddeilen - pwynt bwled Naws Lle, Caernarfon – cynllunio a dyfeisio strategaeth dehongli a marchnata ar gyfer tref Caernarfon gyda mewnbwn rhanddeiliaid, sydd yn adolygu’r sefyllfa bresennol ac yn gosod nod ac amcanion ac yn manylu prosiectau dros y blynyddoedd i ddod.
llun o ddeilen - pwynt bwled Dehongli ar gyfer pobl gydag anableddau – creu cynlluniau dehongli ar gyfer dwy Warchodfa Natur Cenedlaethol – Cors Caron ac Ynyslas – gyda’r bwriad o gyflwyno’r safleoedd hyn i ymwelwyr gydag anghenion arbennig.
llun o ddeilen - pwynt bwled O dan y môr a’i donnau – datblygu cais lwyddianus ar gyfer prosiect a gyllidwyd o gronfa Interreg i godi ymwybyddiaeth o SAC morol Pen Llŷn a’r Sarnau. 
llun o ddeilen - pwynt bwled Strategaeth Dehongli Llŷn – datblygu strategaeth ddehongli ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol drwy gynnal cyfres o weithdai a dyfeisio dogfen berthnasol. 
llun o ddeilen - pwynt bwled Crickheath Wharf, Swydd Amwythig – cynhyrchu cynllun dehongli wedi’i brisio ar gyfer darpar gyrchfan ar Gamlas Maldwyn.

Llecynnau a golygfannau

llun o ddeilen - pwynt bwled Paneli croeso a dehongli, Caernarfon – ymchwilio gwybodaeth a lluniau, creu cysyniad, ysgrifennu copi a chynhyrchu cyfres o baneli croeso a chyfeirio a dehongli ar gyfer tref Caernarfon.
llun o ddeilen - pwynt bwled Paneli cyfeirio a dehongli, Safle Trawsfynydd – cynllunio, creu cysyniad, scriptio and chynhyrchu paneli ar gyfer trywydd cylchog a llwybr ar hyd ymyl llyn Trawsfynydd.
llun o ddeilen - pwynt bwled Coedydd Gŵy, Comisiwn Coedwigaeth – ymchwilio, creu cysyniad ac ysgrifennu testun ar gyfer paneli sy’n dehongli pedair golygfan enwog.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cadw Lliw yn Llŷn – cysyniad, ymchwil ac ysgrifennu copi ar gyfer paneli ar gyfer safleoedd gweundir ar hyd a lled Penrhyn Llŷn.
llun o ddeilen - pwynt bwled Tŵr Paxton, Sir Gâr – ymchwilio, dyfeisio neges, ysgrifennu testun a rheoli contractwyr i gynhyrchu panel dehongli ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lonydd las a llwybrau

llun o ddeilen - pwynt bwled Llwybr Beicio Lôn Ardudwy – ymchwilio, ysgrifennu copi a chreu cysyniad ar gyfer paneli a llyfryn.
llun o ddeilen - pwynt bwled Dol-goch, ger Tywyn - ymchwilio, ysgrifennu copi a chreu cysyniad ar gyfer paneli a llyfryn.
llun o ddeilen - pwynt bwled Trywydd Tryweryn – creu cysyniad, ymchwilio ac ysgrifennu copi ar gyfer paneli a llyfryn ar gyfer trywydd ar dir Canolfan Chwaraeon Dŵr Gwyn, Tryweryn, y Bala.
llun o ddeilen - pwynt bwled Llwybr Arfordir Penrhyn Llŷn - ymchwilio ac ysgrifennu copi ar gyfer llyfryn i gydfynd â'r daith yn ogystal â saith panel mewn trefi a phentrefi.

Pecyn athrawon

llun o ddeilen - pwynt bwled Cors Goch a Chaeau Pen y Clip – pecynnau athrawon ar gyfer dwy warchodfa natur Cymdeithas Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. 

Digwyddiadau awyr agored

llun o ddeilen - pwynt bwled Datguddio treftadaeth Dyffryn Aber - trefnu, hybu a gwerthuso rhaglen o ddigwyddiadau i gydfynd â chloddfa archaeolegol.

Ysgrifennu

llun o ddeilen - pwynt bwled Sloganau, RSPB– drafftio opsiynau, profi a mireinio amrywiaeth o sloganau gwreiddiol yn y Gymraeg i hybu aelodaeth o’r RSPB.

Noder: cydweithiais gyda nifer o gymdeithion gwahanol sy’n arbenigo ar amryw agwedd er mwyn gwireddu nifer o’r comisynau uchod.

Profiad cyflogedig - Swyddog Dehongli, Cyngor Cefn Gwlad Cymru

llun o ddeilen - pwynt bwled Cynllunio a rheoli darpariaeth dehongli a chyfleusterau ymwelwyr ar Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
llun o ddeilen - pwynt bwled Darparu cyngor ac arweiniad i gyd-weithwyr ar ddulliau dehongli effeithlon.
llun o ddeilen - pwynt bwled Cyfranogi mewn fforymau a phartneriaethau, a creu a chyd-gordio grwpiau prosiect lle bo angen.
Manylion y Canolwyr English text

 


Hafan  |  Dehongli  |  Hwyluso  |  Cysylltu  |  Lleoliad
Cynllunio Pentir Design