Mae fy mhrofiad dros 15 mlynedd ym maes cyfathrebu a dehongli dwyieithog wedi canolbwyntio ar ddulliau statig megis paneli awyr agored ac arddangosfeydd pwrpasol. Rydw i wedi cynllunio a rheoli prosiectau arloesol, megis prosiect dehongli’r Wyddfa, sy'n codi ymwybyddiaeth o’r Warchodfa natur uchaf yng Nghymru. Yn ogystal, rheolais brosiect uchelgeisiol i ddehongli rhai o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng gwaith celf awyr agored.
| Hawlfraint © Siân Shakespear 2006 | Cynllunio Pentir Design |